Lleoliad:
Y Pierhead, Pierhead Street, CF99 1NA
Dyddiad: Dydd Llun, 12 Medi 2016
Amser: 12.30 -
17.00
|
Categori |
Enwau |
|
Aelodau’r Cynulliad: |
Nick Ramsay AC (Cadeirydd) Rhun ap Iorwerth AC Mohammad Asghar (Oscar) AC Neil Hamilton AC Mike Hedges AC Rhianon Passmore AC Lee Waters AC |
|
Tystion: |
Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, |
|
Staff y Pwyllgor: |
Fay Buckle (Clerc) Meriel Singleton (Ail Glerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Joanest Varney-Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) Martin Jennings (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Croesawodd y Cadeirydd Syr Derek Jones, Ysgrifennydd Parhaol yn Llywodraeth Cymru, a'i ddau Ddirprwy Ysgrifennydd Parhaol, Owen Evans (y Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus) a James Price, (Grŵp yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol).
1.3 Croesawodd y Cadeirydd Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru a staff allweddol o Swyddfa Archwilio Cymru.
1.4 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
2.1 Rhoddodd y Tîm Clercio gyflwyniad ar ffyrdd y Pwyllgor o weithio.
3.1 Cafwyd cyflwyniad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar rôl Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru.
4.1 Rhoddodd y Tîm Clercio gyflwyniad ar y modd y mae'r Pwyllgor yn cynnal ymchwiliadau. Cafodd y sesiwn ei hwyluso gan Kate Faragher o Bespokeskills.
5.1 Rhoddodd Martin Jennings o Wasanaeth Ymchwil y Cynulliad gyflwyniad ar ddull y Pwyllgor blaenorol o ymdrin â'r gwaith craffu ar gyfrifon blynyddol.
6.1 Trafododd yr Aelodau yr amrywiol gyflwyniadau a gafwyd.